top of page
Helyn Latimer (She/Her/Hi)
Hyfforddodd Helyn yn y Birmingham School of Speech Training and Dramatic Art, gan raddio yn 1990. Mae hi’n siarad Cymraeg, gyda seiliau ger Caerdydd a Llundain.
Mae ei hystod eang o waith llwyfan, cerddorol, teledu a ffilm yn cynnwys credydau gyda BBC, Channel 4, S4C, Severn Screen, Sherman Theatre, WNO Max, Community Music Wales a Theatr Bypedau Cymru.
​​
Mae Helyn hefyd yn bypedwr medrus iawn ac wedi gweithio ar nifer o brosiectau theatr, teledu a ffilm. Mae ganddi lais canu cryf ac mae’n chwarae ffliwt, chwiban tun, gitâr a phiano i safon uchel.
bottom of page